SL(6)470 - Rheoliadau Cynlluniau Effeithlonrwydd Ynni Cartref (Cymru) (Diwygio) 2024

Cefndir a Diben

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cynlluniau Effeithlonrwydd Ynni Cartref (Cymru) 2011 ("Rheoliadau 2011") i ddiwygio'r meini prawf cymhwystra ar gyfer cymorth grant sydd ar gael i aelwydydd incwm isel sy'n byw yn y cartrefi lleiaf effeithlon o ran ynni yng Nghymru (gradd EPC o E neu lai) drwy:

·         ehangu cymhwystra i aelwydydd incwm is nad ydynt yn derbyn budd-daliadau sy'n destun prawf modd;

·         cynnwys lwfans ceisio gwaith ar y rhestr o fudd-daliadau cymwys sy'n destun prawf modd;

·         ymestyn cymhwystra i anheddau sydd â dosbarthiad Tystysgrif Perfformiad Ynni o D neu lai lle mae'r ceisydd naill ai ar fudd-daliadau sy'n destun prawf modd neu o aelwyd incwm is a bod gan yr ymgeisydd gyflwr anadlol cronig, cyflwr cylchrediad y gwaed cronig neu gyflwr iechyd meddwl cronig; a

·         dileu'r cyfyngiad ar ailadrodd ceisiadau gan agor y posibilrwydd o roi grantiau pellach i anheddau cymwys sydd wedi elwa o'r blaen ar gael grantiau o dan Reoliadau 2011.

Y weithdrefn

Negyddol.

Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd. Gall y Senedd ddirymu’r Rheoliadau o fewn 40 niwrnod (ac eithrio unrhyw ddiwrnodau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu neu (ii) ar doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y cawsant eu gosod gerbron y Senedd.

Materion technegol: craffu

Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

Rhinweddau: craffu    

Nodir y tri phwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

1.    Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd

Mae rheoliad 4(b) o'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r diffiniad o “budd-dal sy’n destun prawf modd” yn rheoliad 2 o Reoliadau 2011. Mae’r diffiniad presennol yn Rheoliadau 2011, yn y testun Cymraeg, yn defnyddio llythrennau’r wyddor Saesneg (yn hytrach na’r wyddor Gymraeg) i rifo paragraffau o ganlyniad i’r amnewid a wneir gan reoliad 3 o Reoliadau Cynlluniau Effeithlonrwydd Ynni Cartref (Cymru) (Diwygio) 2013 (O.S. 2013/2843 (Cy.270)). Mae’r diwygiad a wneir gan y Rheoliadau hyn yn parhau â’r patrwm o ddefnyddio’r wyddor Saesneg yn y testun Cymraeg.

Gallai’r Rheoliadau hyn fod wedi bod yn gyfle i gywiro’r gwall hwnnw, yn hytrach na pharhau i ddefnyddio’r wyddor Saesneg ar gyfer rhaniadau lle y dylid defnyddio’r wyddor Gymraeg.

2.    Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd

Mae rheoliad 6 o’r Rheoliadau hyn yn rhoi’r geiriau “is-baragraff (i)” yn lle testun yn rheoliad 9(1)(a)(ii) o Reoliadau 2011. Fodd bynnag, mae'r disgrifiad hwn yn anghywir ac, yn lle hynny, dylai gyfeirio at “paragraff (i)”.

Yn ogystal, mae rheoliad 9(1)(a) o Reoliadau 2011 yn cynnwys gwall hanesyddol, sef cyfeiriad anghywir at “paragraff (b)”, yn hytrach nag “is-baragraff (b)”. Gallai’r Rheoliadau hyn fod wedi bod yn gyfle i gywiro’r gwall hwnnw.

3.    Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd

Mae'r ddarpariaeth drosiannol yn rheoliad 7 yn defnyddio'r term “cais gweithfeydd”. Fodd bynnag, nid yw’r term hwnnw wedi’i ddiffinio at ddiben y Rheoliadau hyn, er iddo gael ei ddiffinio yn rheoliad 2 o Reoliadau 2011.

Er ein bod o’r farn nad yw’r diffyg diffiniad hwn yn ymyrryd â dehongliad y ddarpariaeth drosiannol honno, a ystyriwyd diffinio’r term hwnnw at ddibenion y Rheoliadau hyn (er enghraifft, drwy gyfeirio at reoliad 2 o Reoliadau 2011), er mwyn cynorthwyo hygyrchedd?

Ymateb Llywodraeth Cymru

Pwynt Craffu ar Rinweddau 1:                               

Nodir y pwynt hwn. Fodd bynnag, nid ydym yn bwriadu gwneud unrhyw ddiwygiad ar hyn o bryd. Mae rheoliad 2 o’r prif Reoliadau wedi ei ddrafftio yn y ffordd hon ers 2013 ac nid yw’r drafftio, yn ein barn ni, yn creu unrhyw ansicrwydd na diffyg eglurder i’r darllenydd fel bod angen ei ddiwygio mewn unrhyw ffordd.

Pwynt Craffu ar Rinweddau 2:                                

Nodwn y pwyntiau craffu ar rinweddau sy’n ymwneud â rheoliad 6 o’r Rheoliadau a’r gwall hanesyddol yn rheoliad 9(1)(a) o’r prif Reoliadau. Fodd bynnag, nid ydym yn credu bod y drafftio presennol yn creu unrhyw ansicrwydd na diffyg eglurder i’r darllenydd fel bod angen ei ddiwygio mewn unrhyw ffordd ar hyn o bryd, ond caiff y gwallau hyn eu cywiro y tro nesaf y caiff y prif Reoliadau eu diwygio.

Pwynt Craffu ar Rinweddau 3:                                

Nodir y pwynt hwn. Fodd bynnag, rydym o’r farn bod y drafftio yn glir ac nad oes angen ei ddiwygio mewn unrhyw ffordd.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

21 Mawrth 2024